Susurration – Ed Wright 2019
Sound-Sculpture commission for Golygfa Gwydyr
Susurrate (Latin): a murmur or whisper of leaves, wind etc.
The piece works with the shapes of the woodland to create a reflective space. Resonant metal bars are suspended from various trees and branches sonically and visually amplifying the apparent characteristics of each.
With the notes being suspended from the trees, the branches dictate something of the visual shape. Thus the impression of a majestic or skeletal specimen becomes heightened.
This is exaggerated by the notes used. In the case of a gnarled tree, if the notes used create something bright, a high pitched and major sound; it all of a sudden feels like a cheerful plucky little tree. Whereas if darker diminished tones were chosen the atmosphere and presence feel more menacing.
By itself the sculpture is largely silent, requiring a strong gust or outside intervention to create a sound. Instead, it remains quiet, highlighting the shapes of the canopy in an alien, almost ritualistic way.
On exploring the space members of the public can find beaters secured in place with which to tap the bars and bring the space to life. If audience members want to hear more than one tree at once in the space then they will have to cooperate and play as an ensemble due to the distances involved.

Each tree has a specific chord cluster, the sounds and appearance of which reflect the artists’ response to working with that particular organism. Some are sunlit and beautiful, others are brooding or foreboding, and everywhere in between.
The work is as much about music as the potential for sound. It is about heightening awareness of the environment, the magnification of space and listening and the pockets of existence between, before and after notes.
Edward Wright is a composer and musician living and working in N. Wales. Many thanks to Golygfa Gwydyr for the commission and Ysgol Emrys Ap Iwan for the donation of some of the upcycled materials.
Comisiwn Cerflun Sain ar gyfer Golygfa Gwydyr
Susurrate (Lladin): murmur neu sibrwd y dail, y gwynt ac ati.

Mae’r darn yn gweithio gyda siapiau’r coetir i greu gofod myfyriol. Mae bariau metel cyseiniol yn hongian o wahanol goed a changhennau ac yn chwyddo nodweddion ymddangosol pob un yn seinegol ac yn weledol.
Oherwydd bod y nodau’n hongian o’r coed, mae’r canghennau’n pennu peth o’r siâp gweledol. Felly cawn argraff gynyddol o sbesimen mawreddog neu ysgerbydol.
Caiff hynny ei chwyddo gan y nodau a ddefnyddir. Yn achos coeden gnotiog, os yw’r nodau a ddefnyddir yn creu sŵn clir, llon, uchel ei draw; mae’r cyfan yn sydyn yn teimlo fel coeden fach dalog a siriol. Mae tôn dywyllach a chywasgedig yn creu awyrgylch ac ymdeimlad mwy bygythiol.
Ynddo’i hun mae’r cerflun yn dawel, ac mae angen hwrdd o wynt neu ymyrraeth allanol i greu sain. Yn hytrach, mae’n parhau i fod yn dawel, gan amlygu siapiau’r brigau a’r entrych mewn modd estron, defodol bron.
Mi welwch chi fod yna brennau taro wedi eu gosod i chi guro’r bariau a dod â’r lle’n fyw. Os yw aelodau’r gynulleidfa eisiau clywed mwy nag un goeden yn seinio ar yr un pryd bydd yn rhaid iddynt gydweithredu a chwarae fel ensemble oherwydd y pellteroedd sydd rhwng y coed. Mae gan bob coeden glwstwr cord penodol, y mae ei synau a’i ymddangosiad yn adlewyrchu ymateb yr artistiaid i weithio gyda’r organeb benodol honno. Mae rhai’n heulog a hardd, eraill yn llawn pensyndod neu ddrwgargoel, a phob amrywiad arall.
Mae’r gwaith yn ymwneud cymaint â cherddoriaeth â photensial sain. Mae’n ymwneud â chynyddu ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, chwyddo gofod a gwrando a’r pocedi o fodolaeth sydd rhwng y nodau, cyn pob nodyn ac ar ôl pob nodyn.
Cyfansoddwr a cherddor yw Edward Wright sy’n byw ac yn gweithio yng Ngogledd Cymru. Diolch yn fawr i Olygfa Gwydyr am y comisiwn ac Ysgol Emrys Ap Iwan am roi rhai o’r deunyddiau eilgylch yn rhodd.